Priodasau
Gallem ni briodi yn nhŷ fy rhieni?
Gallwch chi briodi unrhyw le hoffech chi, tu fewn neu y tu allan.
Hoffem ni briodi yn yr awyr agored. Ydy hyn yn syniad gwallgof?
Dim o gwbl! Yn wir, mae priodasau al fresco - boed mewn mannau cyhoeddus neu’n breifat - yn gallu fod yn achlysuron arbennig iawn. Gan ddweud hynny, gan fod y tywydd Cymreig yn dueddol o fod yn wlyb, rydym ni’n argymell creu Plan B - unai leoliad tu fewn neu drwy ddarparu ymbaréls! Fe allwn ni drafod hwn gyda chi.
Beth sy’n digwydd yn ystod seremoni priodas?
Does yna ddim fformat penodol; mae pob seremoni yn unigryw i’r cwpl. Ond fel canllaw, gall priodas debygol cynnwys darlleniadau (rhyddiaith neu gerddi), gwybodaeth am y pâr a pham eu bod nhw’n priodi, ac efallai cerddoriaeth. Bydd y cwpl yn tyngu llw neu’n gwneud ymrwymiad i’w gilydd. Gallwch weld esiampl o strwythur seremoni priodas ddyneiddiol ar wefan Humanists UK.
Beth yw cost seremoni priodas ddyneiddiol?
Cysylltwch â ni i drafod eich enghenion ac am bris. Mae'n bosib byddem yn codi costau teithio ar ben hynny yn dibynnu ar leoliad, ond fe wnawn ni'ch hysbysu o'r ffaith yma yn ystod y trafodaethau cychwynnol.
Mae’r ffi yma yn cynnwys:
· Cyfarfod cynllunio i drafod manylion y seremoni
· Drafftio a golygu sgript unigryw
· Ymarfer y seremoni ar leoliad
· Cynnal y seremoni ar y diwrnod
· Copi o’r sgript i chi gadw.
Beth yw hyd seremoni priodas ddyneiddiol?
Mae’n dibynnu ar beth sy’n cael ei gynnwys, ond yn fras maen nhw'n para rhwng 20 - 45 munud.
Ydych chi’n cynnig priodasau unrhyw?
Wrth gwrs. Mae gweinwyr Humanists UK wedi bod yn cynnal priodasau unrhyw am o leiaf dau ddegawd, ac roeddem ni’n rhan allweddol o’r ymgyrch i gyfreithloni priodasau unrhyw.
Fe wnaethon ni briodi tramor, a hoffem ni gynnal seremoni arall ar gyfer ein teulu a ffrindiau yn y wlad hon. Medrwch chi gynnig hwn?
Fe fyddem ni’n hapus iawn i greu dathliad o’r math yma ar eich cyfer - yn wir, mae nifer o’n seremonïau yn digwydd o dan amgylchiadau tebyg. Medrwn ni un ai cynnal seremoni priodas, neu drin y seremoni fel dathliad o’ch priodas - p’un sydd gorau gennych chi. Er hynny, mae’r rhan fwyaf o gyplau yn dueddol o wneud addewidion ac ail-gyfnewid modrwyau.
Mae fy nain / modryb / dad yn grefyddol a dydw i ddim am dramgwyddo yn ei h/erbyn. Bydd priodas ddyneiddiol yn iawn?
Rydym yn cydnabod bydd gwesteion ym mhob priodas yn dilyn gwahanol gredoau a chrefyddau. Rydym yn angerddol ynglŷn â’r ffaith y dylid pawb teimlo’n gyfforddus ac yn rhan o’r dathliad.
Ffocws y briodas bydd chi, y cwpl, a’ch perthynas a’r gwerthoedd rydych chi’n rhannu. Mae dyneiddwyr yn credu mewn seilio partneriaethau hir dymor ar egwyddorion fel cefnogaeth, cydraddoldeb a gonestrwydd. Mae’n anodd dychmygu gwestai yn anghytuno gyda’r un o’r rheini!
Hoffem ni gynnwys ein gwesteion mewn rhyw ffordd. Allem ni wneud hwn?
Wrth gwrs. Mae’n wych pan fod gwesteion yn rhan o briodas, yn hytrach na fod yn arsylwyr yn unig. Byddem ni’n hapus i gynnig syniadau.
Gawn ni ysgrifennu addunedau ein hunain?
Yn aml yr addunedau personol yw un o uchafbwyntiau priodas ddyneiddiol, felly rydym yn eich annog i ysgrifennu neu ddewis geiriau eich hunan, a byddem ni’n hapus i’ch cynorthwyo i wneud felly, pe baech yn dymuno unrhyw arweiniad. Fe allem ni ddarparu esiamplau, ac mae croeso i chi ddefnyddio’r rhain, neu eu haddasu nhw. Chi bia’r dewis!
Mae’n gas gen i siarad yn gyhoeddus a dwi’n poeni am orfod gwneud. Allwch chi helpu?
Does dim rheidrwydd arnoch chi i ddweud unrhyw beth o gwbl yn ystod eich priodas. Os ydych chi’n poeni am siarad, medrwn ni lunio cyfres o aduniadau fel cwestiynau, ar gwbl bydd angen i chi ddweud yw ‘ydw’ neu ‘dwi’n addo’. Fe all yr addewidion dod gennych chi er mwyn adlewyrchu eich teimladau, ond fedrith y gweinydd eu darllen nhw ar eich rhan.
A fydden ni wedi’n priodi’n gyfreithiol ar ôl priodas ddyneiddiol?
Yn wahanol i’r Alban, lle mae 51% o’r holl briodasau’n rhai dyneiddiol, nid oes gan briodasau dyneiddiol statws cyfreithiol eto yng Nghymru na Lloegr. Mae Humanists UK yn parhau gyda’i ymgyrch i newid hwn. Er hynny, mae nifer o gyplau yn cyflawni’r materion cyfreithlon mewn swyddfa gofrestru ac yn ystyried y briodas ddyneiddiol fel eu priodas go iawn. Ac mae yna rhai manteision I gael priodas heb statws cyfreithiol, e.e. does yna ddim cyfyngiadau ar be ellid ei gynnwys, neu bryd a ble rydych chi’n priodi. Mae’r achlysur gymaint yn fwy hyblyg a phersonol.
Pryd mae cwpl yn priodi’n gyfreithlon os maen nhw’n cael priodas ddyneiddiol?
Mae hwn yn amrywio o un cwpl i’r llall. Bydd nifer ohonynt wedi delio a’r gwaith papur mewn swyddfa gofrestru o flaen llaw, gyda llond llaw o bobl fel tystion. Mae eraill yn gwneud hwn ar yr un diwrnod a’r briodas, ac yn ei gynnwys fel rhan o’r dathliadau, tra bod eraill yn disgwyl tan ar ôl y seremoni ‘go iawn’ (dyneiddiol).
Oes rhaid i ni briodi’n gyfreithlon os ydym ni am gael seremoni briodas ddyneiddiol?
Na. Mae yna amryw o resymau mae pobl am ddatgan ei ymrwymiad yn gyhoeddus heb gofrestru’r bartneriaeth fel priodas gyfreithlon; ac mae’r gweinwyr yn deall hwn yn iawn.
Os oes rhaid i ni briodi’n gyfreithlon mewn lle gwahanol, bydd seremoni priodas ddyneiddiol yn teimlo fel priodas go iawn?
Mae gan nifer o bobl y pryder hwn. O’n profiad ni, mae cyplau yn dweud mai’r briodas ddyneiddiol teimlodd fel y briodas ‘go iawn’, gan eu bod nhw wedi eu hamgylchynu gan bob sy’n eu caru nhw. Yn wir, mae gwesteion yn dweud roedd yr achlysur yn fwy teimladwy ac ystyrlon na phriodasau eraill, am ei fod yn achlysur mwy personol.
Oes rhaid i ni ddweud wrth bobl nad yw’r briodas yn gyfreithlon?
Wnawn ni drafod gyda chi sut i ddelio gyda’r sefyllfa. Mae’n berffaith bosib egluro’r sefyllfa mewn ffordd gadarnhaol, trwy ddweud eich bod yn ystyried hwn fel eich priodas go iawn. Ond os nad ydych chi am egluro statws cyfreithlon y briodas, mae hynny’n iawn hefyd. Yn amlwg, ni wneith y gweinydd dweud unrhyw beth fydd yn awgrymu bod y seremoni yn rhwymo'n gyfreithiol.